No 5 Brynhyfryd Llanddarog, Carmarthen Offers in the Region Of £275,000
Please enter your starting address in the form input below.
Please refresh the page if trying an alternate address.
- BYNGALO MODERN AR WAHÂN.
- DIM CADWYN YMLAEN. ARDAL Y MAE MYND MAWR ARNI.
- 3 YSTAFELL WELY o faint dwbl.
- LOLFA/YSTAFELL FWYTA. 2 DOILED.
- GERDDI BLAEN A CHEFN.
- GWRES CANOLOG OLEW. FFENESTRI PVCu GWYDR DWBL.
- O FEWN PELLTER CERDDED I SIOP CYFLEUSTRA/SWYDDFA BOST, YSGOL GYNRADD A THAFARNDAI/BWYTAI’R PENTREF.
- HANNER FFORDD RHWNG CAERFYRDDIN A CROSS HANDS.
BYNGALO MODERN AR WAHAN A 3 YSTAFELL WELY a godwyd mewn dull traddodiadol (1977) y mae ei wedd flaen atyniadol yn rhannol ar ffurf carreg adffurfiedig. Mae wedi'i leoli mewn llecyn hwylus iawn ger mynedfa i o breswylfeydd tebyg y mae galw mawr amdanyn nhw, a hynny ar gwr pentref Llanddarog ac o fewn pellter cerdded i Siop Cyfleustra/Ystafell De/Swyddfa Bost, Ysgol Gynradd Llanddarog a Thafarndai/Bwytai cymuned boblogaidd Llanddarog. Mae' r pentref ardal wledig gyfagos yn Gymraeg eu hiaith yn bennaf. Saif y pentref gerllaw ffordd ddeuol yr A48 rhwng Caerfyrddin a Cross Hands a hynny 1.5 milltir o Siop/Swyddfa Bost Porthyrhyd, 2.5 milltir o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, 6 milltir o Barc Busnes a chanol Cross Hands, 7 milltir o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd ar gael yng nghanol Tref Farchnad a Sirol Caerfyrddin, a rhyw 9.5 milltir o Draffordd yr M4 ym Mhont Abraham.
PORTSH MYNEDFA
â drysau dwbl allanol PVCu gwydr dwbl. Drws ffrynt PVCu gwydr dwbl anhryloyw ynghyd â sgrîn ochr i’r
CYNTEDD MYNEDFA
11' x 4' 3'' (3.35m x 1.29m)
â rheiddiadur. 1 pwynt trydan. Pwynt ffôn.
YSTAFELL WELY FLAEN 1
13' 11'' x 11' 5'' (4.24m x 3.48m)
â rheiddiadur. Ffenest olygfa PVCu gwydr dwbl. Nenfwd cilfwaog ag arwyneb llyfn. 2 bwynt trydan.
CYNTEDD MEWNOL
ag agoriad i’r atig. Thermostat y gwres canolog.
CWPWRDD MEWNOSOD I’R BOILER
gwres canolog olew ‘Grant'. Rheolydd amser y gwres canolog. Silff bren ddelltog.
CWPWRDD CRASU MEWNOSOD
â silindr dwr twym. Silffoedd pren.
YSTAFELL WLYB
7' 11'' x 6' 5'' (2.41m x 1.95m)
â ffan echdynnu. Llawr gwrthlithro. Welydd panelog gwrth-ddwr. Ffenest PVCu gwydr dwbl anhryloyw. Rheiddiadur crôm ar ffurf ysgol ar gyfer crasu tywelion. Nenfwd cilfwaog ag arwyneb llyfn. Swît wen 2 ddarn sy’n cynnwys toiled a basn ymolchi pedestal. Cawod drydan, sedd osod, llen a rheilen.
YSTAFELL WELY GEFN 2 12
12' 5'' x 11' 10'' (3.78m x 3.60m)
â ffenest olygfa PVCu gwydr dwbl. Rheiddiadur. 2 bwynt trydan.
YSTAFELL WELY GEFN 3
11' 10'' x 9' 4'' (3.60m x 2.84m)
â rheiddiadur. 9 pwynt trydan. Ffenest olygfa PVCu gwydr dwbl.
LOLFA/YSTAFELL FWYTA YN UN
29' 7'' x 15' 5'' (9.01m x 4.70m) overall
â 2 lamp wal. Ffenestri yn y naill ben a’r llall. 3 rheiddiadur. Ffenest olygfa PVCu gwydr dwbl yn y pen blaen. 2 bwynt ffôn. 7 pwynt trydan. Pwynt teledu. Drws llithro alwminiwm gwydr sengl i’r
LOLFA HAUL PVCu
13' 4'' x 6' 7'' (4.06m x 2.01m)
â llawr teils seramig. To policarbonad. Drysau PVCu gwydr dwbl i’r ardd gefn. Mae’r lolfa haul yn edrych dros yr ardd.
CEGIN OSOD/YSTAFELL FRECWAST
11' 10'' x 10' 6'' (3.60m x 3.20m)
â gorchudd llawr finyl. Welydd teils/estyllog. Ffenest PVCu gwydr dwbl. Rheiddiadur. 7 pwynt trydan ynghyd â phwyntiau ffiwsiog. Drws allan PVCu gwydr dwbl anhryloyw. Amrywiaeth o unedau cegin gosod – rhai gwaelod a rhai lefel llygad - gan gynnwys ffwrn ddwbl, hob seramig ac uned sinc. Drws i’r
CYNTEDD MEWNOL
â gorchudd llawr finyl. Drysau i’r garej ac i’r
TOILED AR WAHÂN
â llawr teils seramig. Ffenest PVCu gwydr dwbl anhryloyw. Tap cau’r cyflenwad dwr. Welydd â theils hyd y nenfwd. Swît wen 2 ddarn ar ffurf basn ymolchi a thoiled.
ALLANOL
Dreif mynedfa tarmac lle mae digonedd o le parcio preifat ac sy’n arwain at y garej. Gardd flaen wedi’i thirweddu â brics pafin/cerrig ynghyd â borderi blodau. Llwybrau troed ar bob ochr. Yn y cefn y mae patio palmantog ynghyd â lawnt a therasau palmantog. Mae’r ardd gefn yn wynebu’r de ac yn llecyn heulog. TANC STORIO OLEW. LAMP ALLAN a THAP DWR.
GAREJ INTEGROL
17' 2'' x 9' 3'' (5.23m x 2.82m)
â 2 bwynt trydan. Mainc weithio. Ffenest PVCu gwydr dwbl anhryloyw. 8' 8" (2.64m) yw uchder y nenfwd. Drws i’r cyntedd mewnol.
Click to enlarge
Request A Viewing
or Virtual Tour
Carmarthen SA32 8PF
NB. Google map images may neither be current nor a true representation of the property or it’s surroundings as these may have changed since the image was taken.